top of page

CAERDYDD

Welcome

Croeso

O dan Ran 1A, Adran 2B o’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2016 (wedi ei ddiwygio) mae’r rhai sydd yn cynnig datblygiad sylweddol yn gorfod ymgynghori gydag aelodau o’r cyhoedd a’r gymud a hefyd cyrff statudol cyn cynnig y cais cynllunio i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

Mae'r wefan hon yn darparu manylion y cais i ailddatblygu y Mount Stuart Graving Docks yn Bae Caerdydd. Mae’r cynnig yn cynnwys pontŵn arnofiol sy'n cynnwys pyllau nofio awyr agored, sawnâu a decio cysylltiedig, adeilad aml-bwrpas sy'n cynnwys cyfleusterau caffi a bwyty, cyfleusterau lles ac ymlacio a defnyddiau cysylltiedig eraill, a ddarparu ciosgau bwyd a diod.

 

Mae Nordic Urban Oy yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd llawn ar gyfer y datblygiad yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyn-ymgeisio hwn.

 

Rydym yn eich gwahodd i ddarparu sylwadau i’r tîm prosiect er mwyn i ni allu eu hystyried cyn i’r cais cynllunio cael ei gynnig.

 

​Mae’n bwysig nodi fod yr ymgynghoriad yma yn gyfan gwbl ar wahân i’r ymgynghoriad bydd Cyngor Caerdydd y ei gynnal unwaith fod y cais cynllunio wedi cael ei gynnig. Ni fydd a broses yma yn eich stopio rhag gwneud sylwadau yn y dyfodol er mwyn iddynt gael eu cysidro gan y Cyngor

Cliciwch ar y botwm chwarae i weld golwg o'r awyr ar y safle.

00 Allas Cardiff visuals  (1)(41552650.1)_Page_8.jpg
The Development

Y Datblygiad

Mae'r cais yn ceisio caniatâd cynllunio llawn a chaniatâd adeilad rhestredig ar gyfer datblygu safle Mount Stuart Graving Docks.

 

Mae disgrifiad y datblygiad fel a ganlyn:

 

“Caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig ar gyfer datblygu canolfan les fesul cam, gan gynnwys gosod pontŵn arnofiol sy'n cynnwys pyllau nofio awyr agored, sawnâu a decio cysylltiedig; adeilad aml-bwrpas sy'n cynnwys cyfleusterau caffi a bwyty, cyfleusterau lles ac ymlacio a defnyddiau cysylltiedig eraill; darparu ciosgau bwyd a diod; cyfleusterau parcio beiciau, gwaith ar y parth cyhoeddus a thirlunio; a gwaith ac isadeiledd cysylltiedig”

00 Allas Cardiff visuals  (1)(41552650.1)_Page_9.jpg
Planning Documents

Dogfennau Cais Drafft

Mae’r ffeiliau isod yn cynnwys y dogfennau drafft a baratowyd ar gyfer y datblygiad arfaethedig.

Os nad ydych yn gallu gweld y ffeiliau isod,
cliciwch yma. 

Sut i adael sylwad

Os hoffech adael sylwadau ar y cynigion, llenwch y ffurflen sydd wedi'i chynnwys isod.

 

 

 

 

 

Os na allwch gael mynediad at y dogfennau yn electronig, gallwch ofyn am gopïau o'r wybodaeth hon drwy anfon e-bost at yr asiant yn allaspool-consultation@lichfields.uk

 

Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 13/10/2026 – efallai na fydd sylwadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.

Bydd dadansoddiad o'r adborth a dderbyniwyd ac unrhyw newidiadau i'r cynllun yn cael eu hadrodd yn yr Adroddiad Ymgynghori Cyn-ymgeisio, a gyflwynir fel rhan o'r cais cynllunio.

Typing on Keyboard
How to Comment
Lichfields_logo_white - Secondary position.png

Mae Nathaniel Lichfield & Partners Limited ('Lichfields') wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynwyr Gwybodaeth (rhif cofrestru Z6193122). Bydd Lichfields yn dadansoddi eich ymatebion ar ran ein cleient: Nordic Urban Oy.  Ni ragwelir y bydd unrhyw ddata personol yn cael ei gyflenwi trwy gwblhau'r arolwg, ond os bydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddarparu, caiff ei ddiystyru a'i ddileu heb oedi gormodol. Efallai y bydd ymatebion i'r ymgynghoriad hwn ar gael i'r cyhoedd.

bottom of page